Euogrwydd pechod oedd yn bwn, A mi dan hwn yn trengu; Duw a'm rhyddh'odd, pwy'm damnia mwy? I'r Iesu 'rwi yn credu. Pur waed ei galon ddaeth yn llif, Tros fy aneirif feiau; Im cannu'n wyn fel lliain main, Oddi wrth bob stain a brychau. Fe ddofodd llid cyfiawnder llym, 'Does gantho ddim i'w wneuthur; Mae'r gwaed yn gwaeddi hedd yn daer, Trwy'r nef a'r ddae'r yn eglur. Ni all Satan, deddf, na gweddill bai, I ddamnio rhai crediniol; Mae gwaed yr Oen ag uchel lef, O fewn i'r nef yn eiriol. Mi wna'm gorphwysfa dawel byth, Iesu'n dy ddilyth glwyfau; Bellach fy ngobaith fydd a'm ple, 'Th fod yn fy lle'n diodde'.William Williams 1717-91 Aleluia 1749 Tôn [MS 8787]: Irish (<1811)
gwelir: Crist yn Sancteiddrwydd Pa ham y digalonnai mwy Crist yn Brynedigaeth O Iesu fy Ngwaredwr llawn Mi wna'm gorphwysfa dawel byth O Fugail Israel dwg fi 'mlaen Sancteiddrwydd im' yw'r Oen di-nàm |
The guilt of sin was a burden, And under it I was perishing; 'Twas God who freed me, henceforth who shall condemn me? In Jesus I am believing. The pure blood of his heart became a flood, For my innumerable faults; To bleach me white like fine linen, From every stain and spot. It tamed the wrath of keen righteousness, It has no more to do to it; The blood is shouting peace earnestly, Throughout heaven and the earth clearly. Not Satan, law, nor residue of fault, can Condemn believing ones; The Lamb's blood with a loud cry, is Within heaven interceding. I shall make my quiet resting place forever, Jesus, in thy unfailing wounds; Henceforth my hope and my plea shall be, That thou wast suffering in my place.tr. 2021 Richard B Gillion |
|